Safon Y21G
Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae tîm y rhaglen wedi cydweithio â nifer o gyrff i bennu'r safon hon ar gyfer Cymru. Mae'r safon yn rhoi i'r awdurdodau lleol yr wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau amryw feysydd ynghylch:
• Trawsffurfio amgylchedd y dysgu – y meddylfryd ar hyn o bryd
• Dylunio ysgolion – adolygiad cynhwysfawr o'r canllawiau y bydd eu hangen i fanteisio ar yr arferion gorau, gan gynnwys astudiaethau
• Safleoedd yr ysgolion – canllawiau ac astudiaethau
• Caffael a rheoli prosiectau
Mae'r safon yn cyfeirio'r hyn y dylai'r awdurdodau lleol a'r ysgolion ei wneud, yn hytrach na'i bennu, ac mae'n cymryd blaenoriaethau lleol a hyblygrwydd i ystyriaeth. Rhaid cadw at feini prawf mewn rhai meysydd, fodd bynnag, ac mae'r rheiny wedi'u nodi lle bo'n briodol. Dylai'r prosiectau i gyd elwa trwy ddefnyddio'r canllawiau – bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ar eu cyfer yn ôl ymateb priodol i'r materion sydd wedi'u cynnwys yn y safon.
Gwyliwch fideo i’ch tywys drwy’r Safon (Ar gael yn Saesneg yn unig) :
(Mae’n agor mewn ffenestr newydd)
