Skip to content

Safon Y21G

 

Safon Y21G

Ysgol Uwchradd Casnewydd

Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif

Wrth annerch y gynulleidfa yn ystod cynhadledd cyflwyno'r rhaglen fis Mawrth 2010, soniodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes am lunio Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Diben y safon fydd gofalu bod cyfleusterau dysgu plant a phobl ifanc Cymru yn addas fel y bydd modd cyflawni nodau strategaethau gwella ysgolion a deilliannau addysgol yn ogystal â chwtogi ar gostau, defnyddio llai o ynni a gollwng llai o garbon.

Mae tîm y rhaglen wedi cydweithio â nifer o gyrff i bennu'r safon hon ar gyfer Cymru.  Mae'r safon yn rhoi i'r awdurdodau lleol yr wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau amryw feysydd ynghylch:

Trawsffurfio amgylchedd y dysgu – y meddylfryd ar hyn o bryd
Dylunio ysgolion – adolygiad cynhwysfawr o'r canllawiau y bydd eu hangen i fanteisio ar yr arferion gorau, gan gynnwys astudiaethau
Safleoedd yr ysgolion – canllawiau ac astudiaethau
Caffael a rheoli prosiectau

Mae'r safon yn cyfeirio'r hyn y dylai'r awdurdodau lleol a'r ysgolion ei wneud, yn hytrach na'i bennu, ac mae'n cymryd blaenoriaethau lleol a hyblygrwydd i ystyriaeth.  Rhaid cadw at feini prawf mewn rhai meysydd, fodd bynnag, ac mae'r rheiny wedi'u nodi lle bo'n briodol.  Dylai'r prosiectau i gyd elwa trwy ddefnyddio'r canllawiau – bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ar eu cyfer yn ôl ymateb priodol i'r materion sydd wedi'u cynnwys yn y safon.

Gwyliwch fideo i’ch tywys drwy’r Safon (Ar gael yn Saesneg yn unig) :

this is a video in english to guide the user through the 21st century schools standard

(Mae’n agor mewn ffenestr newydd)

Dolenni perthnasol

Watch this video guide for how to navigate the 21st Century Schools Standard
Watch this video guide for how to navigate the School Design Section of the 21CS Standard.