Rheoli prosiectau
Mae’r canllawiau canlynol yn manteisio ar brofiad helaeth o reoli prosiectau ac yn trafod y materion allweddol ynglŷn â sefydlu strwythur lleol sy’n gallu cael y maen i’r wal.
Fel mathau eraill o brosiectau, gall prosiectau buddsoddi mewn ysgolion fynd o chwith neu fethu â chyflawni eu nodau i gyd, ac mae amrywiaeth helaeth o resymau dros hynny. Yn aml, agweddau aflwyddiannus prosiectau sy’n rhoi’r gwersi gorau ar gyfer gwella. Un o’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf gwerthfawr yw awdurdodau lleol eraill fu’n ymwneud â phrosiectau mawr (gwerth £5 miliwn neu drosodd, fel arfer). Mae’r canllawiau hyn hefyd wedi defnyddio canlyniadau Adolygiadau Gateway o brosiectau – yn Lloegr, yn bennaf.
Mae modd ddarllen y ddogfen i gyd ar ffurf PDF isod:
