Dylunio ysgolion
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae llawer o ysgolion wedi'u hadnewyddu neu eu hadeiladu yn y DG a'r tu hwnt, gan gynnwys cannoedd yng Nghymru. Er hynny, ydyn ni'n gwybod beth yw'r arferion gorau, beth sy'n llwyddo a beth sy'n methu?
Diben y rhan hon o'r wefan yw ateb y cwestiynau hynny er lles awdurdodau lleol, ysgolion, dylunwyr, cyflenwyr a chontractwyr. Yn aml, fydd dim atebion safonol achos bod pob prosiect yn wahanol. Mae arferion da a gwael, fodd bynnag.
Gall problemau godi yn sgîl methu â phennu'r anghenion neu o ganlyniad i ddylunwyr wneud yr un hen gamgymeriadau. Diben y rhan hon o'r wefan yw dangos a hysbysu, gan roi gofynion penodol mewn rhai meysydd lle bo'n briodol a chaniatáu hyblygrwydd mewn meysydd eraill.
Dyma'r agweddau dan sylw:
Proses y dylunio – crynodeb o'r amryw gamau
Gofynion statudol – dogfennau ac adolygiadau am y deddfau sy'n berthnasol i ddylunio ysgolion.
Gwybodaeth – enghreifftiau o ddogfennau y bydd eu hangen i drin a thrafod holl ofynion prosiectau – boed adeiladu neu adnewyddu ysgol.
Canllawiau am ddylunio, yn ôl pwnc – adolygu dros 100 o lawlyfrau gan roi cyngor a chyfarwyddiadau am eu defnyddio a thynnu'ch sylw at y safonau lleiaf lle bo'n briodol. Mae modd codi'r dogfennau o'r wefan hon, hefyd.
Enghreifftiau – astudiaethau (gyda lluniau) am sawl agwedd ar waith dylunio ysgolion.
Dylunio ysgolion cynaladwy
Mae rhagor o wybodaeth ar y tudalennau am Ysgolion Cynaladwy Cymru
Safleoedd ysgolion
Mae'n bwysig defnyddio'r arferion gorau wrth ddylunio'r safleoedd hefyd, ac mae gwybodaeth am hynny yma
Gwerthuso ar ôl symud i mewnYdy'r prosiect wedi cyflawni ei nodau? Dylai pob prosiect gael ei werthuso flwyddyn ar ôl ei orffen. Dyma ganllawiau ac enghreifftiau. - dolenni i ddogfennau a gwefannau i ddilyn
Watch a video to guide you through the School Design Section of this website (Saesneg yn unig):
(opens in a new window)
