Trawsffurfio mannau dysgu
Nid dim ond rhaglen adeiladu yw Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Bydd canllawiau'n nodi'r arferion gorau a syniadau arloesol o ran trefnu a defnyddio mannau dysgu. Er enghraifft, mae mwy a mwy o ddiddordeb ynghylch defnyddio mannau ehangach a hyblyg yn yr ysgolion, lle gall athrawon a grwpiau bychain o ddisgyblion weithio mewn amgylchiadau mwy anffurfiol a chreadigol a defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.
Mae rhai dulliau cyffrous ac arloesol ar gael, a byddwn ni'n eu trafod ar y tudalennau hyn.
Mae gweithgor wrthi'n llunio canllawiau am strategaethau TGCh yr ysgolion mewn perthynas â'r safon. Mae'r gweithgor wedi paratoi braslun cychwynnol wedi'i seilio ar ganllawiau BECTA am y prif faterion y dylai awdurdodau lleol fynd i'r afael â nhw i'w galluogi i bennu delfryd eglur ar gyfer defnyddio TGCh yn yr ysgolion:
- Dylai'r strategaeth gael ei llunio yn sgîl ymgynghori â budd-ddalwyr a phartneriaid. Ar ben hynny, dylai gyd-fynd â'r agweddau y cytunwyd arnyn nhw yn Fframwaith Effeithiolrwydd yr Ysgolion a chanolbwyntio ar wella byd plant.
- Dylai strategaeth TGCh awdurdod lleol gynnwys y canlynol
- buddsoddi'n briodol ac yn gynaladwy mewn cysylltedd, isadeiledd ac adnoddau TGCh fydd yn galluogi ysgolion i:
- > hwyluso hawliau disgyblion i ddefnyddio technoleg yn yr ysgol a thu allan iddi wrth ddysgu am bynciau;
- > gweithredu'n fwy effeithiol;
- > arloesi.
- camau i osgoi peryglon i blant ar-lein gan gynnwys cyhoeddi polisïau defnydd derbyniol i bob ysgol ar ôl ymgynghori â'r disgyblion, y rhieni a'r staff;
- cwestiynau a chymorth i benaethiaid ysgolion a'r rhai sy'n arwain pynciau – wedi'u seilio ar amgyffred o'r modd y gall TGCh gael ei defnyddio i wella dulliau addysgu, dysgu ac asesu;
- defnyddio Fframwaith Hunanadolygu BECTA ynghylch TGCh gyda'r ysgolion a swyddogion cynorthwyo'r ysgolion i gael a chynnal achrediaeth ym maes TGCh;
- cynllunio'n eglur ar gyfer defnyddio TGCh mewn modd cost-effeithiol, creadigol ac arloesol ym mhob ysgol er mwyn:
- > cynnal rhaglen addysg gydlynol ac ynddi'r arferion gorau er lles pawb sy'n dysgu ar y we;
- > rhoi dysgu ar gael tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a'r ysgol;
- > hyrwyddo'r syniad o ymgysylltu â rhieni, cynhalwyr a'r gymuned ehangach;
- > helpu'r pontio rhwng cyfnodau allweddol a darparwyr;
- > hyrwyddo cynhwysiad a diwallu anghenion pawb sy'n agored i niwed;
- > hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus;
- > rhannu gwybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau'n briodol;
- > rhoi cyngor ar gael ynghylch swyddi a llwybrau dysgu;
- > casglu a dadansoddi data'n ddiogel i adolygu cynnydd disgyblion, trefnu llwybrau dysgu a meincnodi'r hyn sydd wedi'i gyflawni.
- buddsoddi'n briodol ac yn gynaladwy mewn cysylltedd, isadeiledd ac adnoddau TGCh fydd yn galluogi ysgolion i:
Er mai ar gyfer Lloegr mae'r dogfennau isod wedi'u paratoi, efallai y byddan nhw'n eich ysgogi i gwestiynu'r ffyrdd o addysgu a dysgu yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd:
1. Dogfen CABE/RIBA: Pum sefyllfa ynghylch ysgolion y dyfodol i sbarduno rhagor o feddwl am y pwnc.
2. Astudiaeth am Ganolfan REAL
