Hafan
Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn fwy na rhaglen adeiladu
Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'i sefydlu yn ôl un o addewidion 'Cymru'n Un' ac mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a'r awdurdodau lleol yn cydweithio mewn modd unigryw ynddi. Hanfod y rhaglen yw buddsoddi cyfalaf sylweddol dros y tymor hir i greu ysgolion fydd yn addas i'r 21ain ganrif.
Bydd y rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol – boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16 – o dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol.
Bydd y rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol – boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16 – o dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol.
6 Rhagfyr 2011
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi (5 Rhagfyr 2011) fuddsoddiad o bron i £1.4 biliwn yn ein hysgolion dros gyfnod o saith mlynedd...
6 Rhagfyr 2011
Byddwn ni’n cynnal nifer o seminarau am arferion da llunio ysgolion ar y cyd â Chomisiwn Dylunio Cymru yn 2012, gan gynnwys: Adnewyddu ysgolion , Llunio ysgolion yn ôl dulliau Llychlyn, Ysgolion Passivhaus. Bydd y dyddiadau a rhagor o wybodaeth yma cyn bo hir.
14 Ebrill 2011
Mae'r ddogfen hon a gafodd ei llunio ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2010 yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau am ad-drefnu ysgolion.
9 Mai 2011
Mae llawer o brosiectau gwella ysgolion yng Nghymru. Dyma gyfle i sôn am eich prosiect chi a darllen am eraill…
10 Hydref 2011
Mae adran Dylunio Ysgolion y wefan yn fyw ac wedi ei chwblhau. Mae’r adnodd hirddisgwyliedig hwn yn rhoi canllawiau gwerthfawr ar gyfer adeiladu Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif yng Nghymru.
15 Chwefror 2011
Canllawiau i’ch helpu i ddeall beth mae modd ei wneud i ofalu bod ysgolion yn fwy cynaladwy o safbwynt amgylcheddol. Y prif faterion dan sylw yw ddefnyddio llai o ynni, gollwng llai o CO2 a gwella safle’r ysgol.
