Skip to content

Hafan

 

Hafan

Dau fyfyriwr sy'n gweithio ar brosiect

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn fwy na rhaglen adeiladu

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'i sefydlu yn ôl un o addewidion 'Cymru'n Un' ac mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a'r awdurdodau lleol yn cydweithio mewn modd unigryw ynddi.  Hanfod y rhaglen yw buddsoddi cyfalaf sylweddol dros y tymor hir i greu ysgolion fydd yn addas i'r 21ain ganrif.

Bydd y rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol – boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16 – o dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol.
6 Rhagfyr 2011
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi (5 Rhagfyr 2011) fuddsoddiad o bron i £1.4 biliwn yn ein hysgolion dros gyfnod o saith mlynedd...
6 Rhagfyr 2011
Byddwn ni’n cynnal nifer o seminarau am arferion da llunio ysgolion ar y cyd â Chomisiwn Dylunio Cymru yn 2012, gan gynnwys: Adnewyddu ysgolion , Llunio ysgolion yn ôl dulliau Llychlyn, Ysgolion Passivhaus. Bydd y dyddiadau a rhagor o wybodaeth yma cyn bo hir.
14 Ebrill 2011
Mae'r ddogfen hon a gafodd ei llunio ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2010 yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau am ad-drefnu ysgolion.
9 Mai 2011
Mae llawer o brosiectau gwella ysgolion yng Nghymru.  Dyma gyfle i sôn am eich prosiect chi a darllen am eraill…
10 Hydref 2011
Mae adran Dylunio Ysgolion y wefan yn fyw ac wedi ei chwblhau. Mae’r adnodd hirddisgwyliedig hwn yn rhoi canllawiau gwerthfawr ar gyfer adeiladu Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif yng Nghymru.
15 Chwefror 2011
Canllawiau i’ch helpu i ddeall beth mae modd ei wneud i ofalu bod ysgolion yn fwy cynaladwy o safbwynt amgylcheddol.  Y prif faterion dan sylw yw ddefnyddio llai o ynni, gollwng llai o CO2 a gwella safle’r ysgol.