Amdanon ni
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Llywodraeth Cymru a byd llywodraeth leol yn cydweithio mewn modd unigryw i gynnal Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan ddod â'r holl elfennau priodol ynghyd i ofalu y bydd cyfleusterau addysg yn addas i'r 21ain ganrif.
Mae tîm y rhaglen, sy'n gweithio yn adeilad WLGA, yn diweddaru'r wefan trwy gyhoeddi deunyddiau a gwybodaeth fydd o gymorth i'r rhai sy'n ymwneud â'r mater megis awdurdodau lleol, ysgolion, pobl ifanc, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau esgobaethol, cyrff arbenigol, contractwyr, cyflenwyr a'r cyfryngau.
Bydd y Rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol – boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16 – o dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol.
Mae'r Rhaglen ar waith er mis Mawrth 2009 ac fe gafodd ei chyflwyno'n ffurfiol gan y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews AC, mewn cynhadledd i'r bobl gysylltiedig fis Mawrth 2010.
