Skip to content

Y Bwrdd Rhaglen

 

Y Bwrdd Rhaglen

The programme board for 21st century schools

Gwybodaeth am y Bwrdd Rhaglen

Mae bwrdd wedi'i sefydlu ar gyfer y rhaglen. Mae nifer cynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad a'r awdurdodau lleol – swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) – yn gyfartal arno. Yn ogystal â'r aelodau hynny, mae cynrychiolwyr o'r ysgolion enwadol a Cholegau Cymru.



Bydd y bwrdd yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn – y Gweinidog dros Addysg fydd y cadeirydd ar gyfer tri chyfarfod a Llefarydd WLGA dros Addysg a Dysgu Gydol Oes fydd y cadeirydd ar gyfer y lleill.

Mae'r bwrdd yn gyfrifol am gynghori'r Gweinidog ynglŷn â phennu Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif a chynnal y rhaglen dros 15 mlynedd neu ragor.  Mae cyngor a chymorth swyddogion Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad (DCELLS) ac WLGA ar gael i'r bwrdd, hefyd.

Datganiad ar gyfer cyfarwyddwyr addysg

22/02/11
Fe fyddwch chi wedi cael cadarnhad ym mis Rhagfyr fod y rhaglen amlinellol strategol gyflwynodd eich awdurdod wedi cyrraedd ein swyddfa.
 

Ymgynghoriad Bwrdd Ysgolion 21 ganrif

31/12/10
Gweler y ddogfen isod sy’n amlinellu cyfansoddiad y Bwrdd
 

Dolenni perthnasol

Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r rhaglen Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr Rhaglen Ffôn: 02920 826057 De Ddwyrain a De Orllewin Peter Hindley, Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif / Ad-drefnu Ffôn: 01443 663690 Gogledd a Chanolbarth Cymru Catrin Jones, Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif / Ad-drefnu Ffôn: 0300 062 5573 Cyfeiriwch ymholiadau arian cyfalaf penodol at: Malcolm Hobbs, Pennaeth Cyllid Cyfalaf Ffôn: 02920 823546 Drwy'r Post: Ystafell 3-109 3ydd Llawr Parc Cathays 2 Caerdydd CF10 3...