Skip to content

Y Rhaglen

 

Y Rhaglen

Plant ysgolion uwchradd

Am y rhaglen

Yn ôl nodau'r rhaglen, dylai pob buddsoddiad helpu i wella ysgolion a deilliannau addysgol.  Felly, bydd disgwyl i awdurdodau lleol fuddsoddi arian lle bydd yr effaith fwyaf.  Yn ogystal â chodi ysgolion newydd, bydd yn bosibl adnewyddu'r rhai cyfredol gan gyflwyno cyfleusterau a thechnoleg sy'n ymateb i'r ffyrdd cyfnewidiol o ddysgu ac addysgu.

Dyma'r hyn sydd i'w gyflawni:

  • mannau dysgu i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed lle bydd modd cyflawni nodau strategaethau ar gyfer gwella ysgolion a deilliannau addysgol;
  • cyfundrefn addysg gynaladwy trwy ddefnyddio adnoddau'n well fel y bydd adeiladau'r ysgolion yn fwy effeithlon a chost-effeithiol ac y bydd gwell gwasanaethau lleol ar gael i'r cyhoedd;
  • safon Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer ysgolion Cymru i gwtogi ar gostau eu cynnal, yr ynni maen nhw'n ei ddefnyddio a'r carbon maen nhw'n ei ollwng.

Dogfen wybodaeth am y rhaglen

Mae'r ddogfen ar y dde yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen:

  • Cyflwyniad;
  • Beth yw ysgol sy'n addas i'r 21ain ganrif?;
  • Blaenoriaethu ac ariannu prosiectau;
  • Cyflwyno rhaglenni amlinellol strategol;
  • Cyflwyno dadl o blaid prosiect;
  • Dewisiadau ynghylch caffael;
  • Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif?;
  • Llywodraethu – rôl y gweinidog a bwrdd y rhaglen;
  • Cymorth tîm y rhaglen;
  • Cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn aml

Dolenni perthnasol

Mae'r ddogfen yn cynnwys manylion nad oedden nhw ar gael pan gyflwynon ni'r rhaglen fis Mawrth 2010.