Y Rhaglen
Am y rhaglen
Yn ôl nodau'r rhaglen, dylai pob buddsoddiad helpu i wella ysgolion a deilliannau addysgol. Felly, bydd disgwyl i awdurdodau lleol fuddsoddi arian lle bydd yr effaith fwyaf. Yn ogystal â chodi ysgolion newydd, bydd yn bosibl adnewyddu'r rhai cyfredol gan gyflwyno cyfleusterau a thechnoleg sy'n ymateb i'r ffyrdd cyfnewidiol o ddysgu ac addysgu.
Dyma'r hyn sydd i'w gyflawni:
- mannau dysgu i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 19 oed lle bydd modd cyflawni nodau strategaethau ar gyfer gwella ysgolion a deilliannau addysgol;
- cyfundrefn addysg gynaladwy trwy ddefnyddio adnoddau'n well fel y bydd adeiladau'r ysgolion yn fwy effeithlon a chost-effeithiol ac y bydd gwell gwasanaethau lleol ar gael i'r cyhoedd;
- safon Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer ysgolion Cymru i gwtogi ar gostau eu cynnal, yr ynni maen nhw'n ei ddefnyddio a'r carbon maen nhw'n ei ollwng.
Dogfen wybodaeth am y rhaglen
Mae'r ddogfen ar y dde yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen:
- Cyflwyniad;
- Beth yw ysgol sy'n addas i'r 21ain ganrif?;
- Blaenoriaethu ac ariannu prosiectau;
- Cyflwyno rhaglenni amlinellol strategol;
- Cyflwyno dadl o blaid prosiect;
- Dewisiadau ynghylch caffael;
- Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif?;
- Llywodraethu – rôl y gweinidog a bwrdd y rhaglen;
- Cymorth tîm y rhaglen;
- Cwestiynau sy'n cael eu gofyn yn aml
Dolenni perthnasol
Mae'r ddogfen yn cynnwys manylion nad oedden nhw ar gael pan gyflwynon ni'r rhaglen fis Mawrth 2010.
