Skip to content

Dadlau o blaid y rhaglen

 

Dadlau o blaid y rhaglen

Crynodeb o'r gwaith

1.1 Mae'r ddadl o blaid y rhaglen wladol yn ddogfen bwysig sy'n amlinellu nodau a strategaeth Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a sefydlodd Llywodraeth y Cynulliad yn rhan o amodau cytundeb Cymru'n Un, a pham roedd angen ei sefydlu.  Mae Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), yr awdurdodau lleol, yr ysgolion esgobaethol, mudiad Colegau Cymru a chyrff eraill yn cydweithio mewn modd unigryw ar ei chyfer.  Dyma raglen fawr fydd yn buddsoddi cyfalaf dros y tymor hir i ofalu bod ysgolion Cymru yn addas i'r 21ain ganrif gan wella mannau dysgu a deilliannau addysgol trwy safleoedd cynaladwy.

1.2 Mae'r rhaglen yn neilltuo adnoddau i'r ysgolion priodol yn y lleoedd priodol boed addysg y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd neu ôl-16.  Llywodraeth y Cynulliad a'r awdurdodau lleol sy'n ei hariannu ar y cyd.  

Mae'n ehangach na rhaglen adeiladu am ei bod yn ymwneud â:

  • cynllunio strategol fel y bydd y ddarpariaeth briodol yn y lle priodol ac y bydd newidiadau perthnasol yn cael eu rheoli;
  • safonau gwladol y cytunwyd arnyn nhw – Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif;
  • strategaeth gaffael a chymorth cysylltiedig;
  • amryw ddulliau ariannu ac ymrwymiad gan Lywodraeth y Cynulliad i'w hariannu yn ôl lefelau penodol dros y tymor canolig a'r tymor hir;
  • rhaglen o brosiectau gan gynnwys rhai arloesol enghreifftiol.

1.3 Strategaeth gyffredinol Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad (DCELLS) yw newid y sefyllfa bresennol fel y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cyflawni rôl o ran cynnal gwasanaeth addysg effeithlon.  Fydd dim modd parhau â'r drefn bresennol am fod tua 20% o'r lleoedd yn wag yn ysgolion Cymru ar gyfartaledd ac mae'n ddrud iawn cynnal yr isadeiledd fel y mae e.  At hynny, mae sawl safle heb gyd-fynd â safonau amgylcheddol ac, yn aml, mae'r mannau dysgu i blant a phobl ifanc yn anghyfoes ac mewn cyflwr annerbyniol.  Mae lefel yr arian sydd ar gael trwy Lywodraeth y Cynulliad wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf hyn ond mae tri ffactor wedi amharu rywfaint ar effaith strategol y buddsoddiad hwnnw: tuedd cyrff lleol a gwladol fel ei gilydd i gynllunio ar gyfer y tymor byr; dim diffiniad eglur o'r hyn sydd i ddeillio o unrhyw fuddsoddiad; diffyg gallu ynghylch buddsoddi ar raddfa eang.  Cafodd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ei sefydlu i fynd i'r afael â hynny i gyd.

1.4 Rôl y rhaglen hon yn strategaeth DCELLS, sy'n cynnwys nifer o fentrau cysylltiedig, yw neilltuo arian i'r prosiectau mwyaf effeithiol ynglŷn â chodi safonau a chynnal gwasanaeth effeithlon.  Wrth wneud hynny, fe fyddwn ni'n gofalu bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu mannau dysgu cyfoes, hyblyg a symbylol sy'n cyd-fynd â safonau amgylcheddol.  Ar ben hynny, gallai fod cyfle i awdurdodau lleol adleoli gwasanaethau, gwella cyfleusterau a dodi ysgolion yng nghanol eu cymunedau.

1.5 I ddibenion cynllunio, roedd data am gyflwr yr ysgolion a pha mor addas ydyn nhw i'w dibenion wedi'u hadolygu a'u diweddaru erbyn dechrau 2010.  Defnyddiodd y 22 awdurdod lleol y data hynny wrth baratoi eu rhaglenni amlinellol strategol a ddisgrifiodd y sefyllfa gyfredol a'r sefyllfa ddelfrydol ymhen 10 mlynedd.  Mae'r rhaglenni hynny wedi'u cyflwyno i DCELLS ac yn cael eu cloriannu.  Ar ôl etholiad y Cynulliad, y bwriad yw cyhoeddi rhaglen fuddsoddi hirdymor ac iddi brosiectau i'w cynnal fesul tair blynedd.  Bydd yn y gyfres gyntaf brosiectau mae'r awdurdodau lleol wedi'u blaenoriaethu  Yn y cyfresi wedyn, bydd modd diwallu anghenion ehangach yn amodol ar adolygu gwariant.  Bydd prosiectau'n cael eu hariannu ar yr amod bod rhesymau cryf dros wneud hynny.

1.6 Ar y naill law, mae'r rhaglenni amlinellol strategol yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol ac, ar y llaw arall, mae proses eu cloriannu'n adlewyrchu nodau gwladol.  Dylai'r hyn sy'n deillio o hynny fod yn gyfuniad o amcanion a dewisiadau cyffredinol mae modd eu dehongli a'u defnyddio yn ôl yr hyn sydd orau yn lleol.  Dyw'r rhaglen ddim yn anelu at gynnig ffordd safonol o drefnu ysgolion.  Er y gallai ysgolion newydd fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, efallai y bydd yn well adnewyddu ysgolion cyfredol mewn ardal arall.

1.7 Trwy lunio Safon Ysgolion yr 21ain Ganrif y bydd rhaid i bob prosiect gydymffurfio â hi i gael ei ariannu, y bwriad yw gofalu na fydd rhyddid llwyr i ddehongli'n lleol (er enghraifft, ynghylch safonau amgylcheddol a gofodol).  Mae llawer o agweddau'r safon yn dangos yr arferion gorau ac yn rhoi amryw ddewisiadau (yn arbennig mewn meysydd cyfnewidiol megis TG) er bod eraill yn hybu cysoni.  At hynny, mae'r safon yn sôn am yr arferion gorau ynghylch trefnu prosiectau ac yn rhoi dewisiadau ynghylch ariannu (yn ôl rhai meini prawf) a rheoli'r prosiectau yn ogystal â materion eraill.

1.8 Mae'r rhan am fod yn ddarbodus yn ystyried amryw ddewisiadau ynglŷn â chyflawni nodau'r rhaglen gan gynnwys oedran y disgyblion dan sylw, llunio gwasanaethau (safonol neu ymarferol), cynnig gwasanaethau (gwladol neu leol), gweithredu (rhanbarthol neu drefn arall) ac ariannu (dulliau arferol neu amgen).  Ym mhob achos, rydyn ni wedi trafod y dull sydd orau gan y rhaglen ac, mewn rhan arall o'r ddogfen, mae proses rheoli risgiau fel y bydd modd cadw golwg ar faterion perthnasol.

1.9 Mae'r ddadl fasnachol yn ystyried yr angen i awdurdodau lleol gydweithio wrth godi ysgolion a chynnal prosiectau eraill fel y byddan nhw'n cael gwerth eu harian ac yn elwa ar fanteision gwerthfawr eraill cydweithio.  Mae amryw ddulliau caffael ar gyfer prosiectau unigol neu gyfunol ond cydweithio sydd orau o ran llunio a chynnal prosiectau.  Un o agweddau pwysicaf proses gaffael o safbwynt y rhaglen yw gofalu bod manteision i'r gymuned, megis cyfleoedd i gael hyfforddiant a bwrw prentisiaethau, fel y bydd cwmnïau bychan a chanolig eu maint ar eu hennill.

1.10 Mae'r ddadl ariannol yn dweud na fydd modd cyflawni nodau'r rhaglen i gyd cyn pen 10 mlynedd, yn ôl pob tebyg, ac y bydd yn fwy ymarferol gwario yn ôl yr un lefel (£220 miliwn y flwyddyn) o bob ffynhonnell dros 15-20 mlynedd, o bosibl.  Mae hynny'n awgrymu mai bron £3 biliwn fydd cost y rhaglen yn y pen draw yn ôl prisiau presennol.  Bydd modd asesu hynny'n fwy trylwyr ar ôl cloriannu'r rhaglenni amlinellol strategol.

1.11 Mae'r rhan olaf yn ymhelaethu ar faterion rheoli trwy ystyried trefniadau llywodraethu sydd wedi'u sefydlu ar gyfer y rhaglen.  Hanfod y rheiny yw bwrdd y bydd y Gweinidog dros Addysg a Llefarydd WLGA dros Ddysgu Gydol Oes yn ei lywio yn ei dro bob yn ail gyfarfod (gan adlewyrchu'r dull cydweithredol sydd ar waith ers dechrau'r rhaglen) a thîm gweinyddu bychan.  Mae rhaglen y gweithgareddau yn y rhan hon, hefyd.

1.12 Mae'r amryw atodiadau'n manylu ar wahanol agweddau'r rhesymau dros barhau â'r rhaglen.

I ddarllen rhagor, cliciwch yma: Dadl o blaid y rhaglen, a'r atodiadau.

Dolenni perthnasol

Mae'r ddadl o blaid cynnal y rhaglen yn ymhelaethu ar nodau ac amcanion Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a pham roedd angen ei sefydlu.