Newyddion

Dyma’r diweddaraf am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chyrff sy’n ymwneud â hi
11/10/18
Mewn digwyddiad arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog heddiw (11eg o Hydref), cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fuddsoddiad o £2.75 miliwn tuag at weledigaeth Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, i ddatblygu ac adnewyddu Gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn. Bydd
...
14/09/18
Heddiw agorodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ysgol gynradd newydd o'r radd flaenaf ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
05/07/18
Ymhlith y preswylwyr sydd wedi aros yn Neuadd Pantycelyn yn y gorffennol y mae Tywysog Charles, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac Alex Jones o'r One Show. A bellach mae'r Neuadd eiconig yn mynd i fod yn gartref i nifer mwy o fyfyrwyr diolch i gyllid o £5m gan un o raglenni Llywodraeth Cym
...
19/06/18
Mae hyn yn fuddsoddiad o £1.4 biliwn yn y seilwaith addysg ar draws Cymru.
03/03/18
Mae ysgolion ar fin derbyn £14 miliwn ar gyfer mân atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw o dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
08/02/18
Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y bydd £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i gyflymu’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
10/11/17
Heddiw (10 Tachwedd 2017), cyhoeddodd Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £2.3 biliwn ychwanegol i foderneiddio'r seilwaith addysg.
06/10/17
Heddiw (6 Hydref) cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6.75 miliwn mewn canolfan beirianneg newydd sbon ar gyfer myfyrwyr addysg bellach ar Gampws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni. Mae hyn yn rhan o’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolio
...
05/10/17
Heddiw, bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn agor campws newydd £22 miliwn Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn swyddogol (dydd Iau 5 Hydref).
13/03/17
Mae ysgol newydd gwerth £40 miliwn wedi’i hagor heddiw yn swyddogol ym Mhort Talbot gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams (dydd Llun 13 Mawrth).
15/12/16
Mae'r ysgol newydd fodern yn enghraifft o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleusterau addysgu gorau i'r plant sydd eu hangen fwyaf, meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw.
24/11/16
Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ysgol pob oed newydd gwerth £37m ym Margam.
06/05/15
Rydym wedi penodi Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru i ddatblygu rhaglen waith i gefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i gynyddu gwerth y buddsoddiad i'r eithaf, a sicrhau ei fod yn cael cyn gymaint o effaith â phosibl, a darparu adeiladau sy'n perfformio'n well am lai o gost.
09/02/15
Ymwelodd Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg, a champws Coleg Y Cymoedd Nantgarw i drafod datblygiad y Cwricwlwm newydd yng Nghymru.
22/07/14
Mae Teilo Sant, menter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerdydd, yr Eglwys yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, wedi mynd i'r afael â'r problemau lleoedd i ddisgyblion sy'n wynebu tair ysgol wahanol ym maestrefi dwyrain Caerdydd.
16/06/14
Ni ddylai athrawon na disgyblion gyffwrdd â masgiau nwy o’r Ail Ryfel Byd na helmedau o’r Rhyfel byd Cyntaf.
22/05/14
Mae dull gwreiddiol o ddylunio adeiladau wedi galluogi i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Ne Cymru oresgyn rhwystrau ei strwythurau dros dro a symud ymlaen i fod ar flaen y gad o ran amgylcheddau addysgu modern.
22/05/14
Mae’r ysgol yn profi’n fwy poblogaidd nag erioed ymhlith plant yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yng Nghymru ers agor ysgol gynradd hynod fodern gwerth £7.9m, gyda chyllid rhannol o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
20/05/14
Y rhaglen gwerth £1.4 biliwn sy’n helpu i greu amgylcheddau dysgu newydd ar draws Cymru a fydd yn cymell ac yn ysbrydoli.
12/05/14
Mae dyfodol addysg gynradd cyfrwng Cymraeg mewn ardal wledig yn Sir Ddinbych yn edrych yn fwy diogel, diolch i fuddsoddiad o £1.4 miliwn sy'n dod â dwy ysgol gynradd ynghyd mewn amgylchedd newydd a modern iawn.
12/05/14
Bydd buddsoddiad o £50 miliwn yn newid gwedd addysg uwchradd mewn Cwm difreintiedig drwy gyfuno tair ysgol sydd mewn trafferthion, a chreu sefydliad newydd arloesol gyda’r bwriad o gynnig mwy o ddewis, y safonau gorau a’r cyfleusterau dysgu a hamdden diweddaraf.
18/03/14
Ceir manylion yn y Cod am y gofynion a’r canllawiau mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion a ddaeth i rym ar ôl 1 Hydref 2013.
18/03/14
Bydd angen i'r rheini sy'n ymgymryd â phrosiectau Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau a’r ddeddfwriaeth y mae’n rhaid cadw atynt er mwyn sicrhau diogelwch wrth wneud gwaith adeiladu a gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion.
11/07/13
Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y rhan fwyaf o ddisgyblion Cymru yn dal i gael eu dysgu mewn dosbarthiadau babanod a chynradd sy’n cynnwys 30 neu lai o blant.
10/07/13
Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi croesawu’r newyddion bod £25 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf yn mynd i fod ar gael ar gyfer prosiectau adeiladu ysgolion o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
06/06/13
Ar ymweliad â Cheredigion bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn blasu rhai o fwydydd gorau y sir a gweld sut mae addysg yn cael ei ddarparu yn un o'i hysgolion mwyaf newydd.
07/05/13
Bydd pecyn ariannu o £76.5 miliwn ar gael ar gyfer tai, ysgolion, amddiffyn rhag llifogydd a thrafnidiaeth yn cefnogi tua 1,400 o swyddi ac yn hybu twf economaidd, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, heddiw.
02/04/13
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ei fod yn rhoi £35.7m ychwanegol i brosiectau cyfalaf yng Nghymru er mwyn i awdurdodau lleol allu dechrau’n gynnar ar y gwaith adeiladu.
22/03/13
Bydd buddsoddi mewn seilwaith a chefnogi sector adeiladu Cymru yn sicrhau bod Cymru yn hybu’r economi, meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid heddiw.
14/03/13
Bydd y gwaith o adfywio safle gwaith dur Glynebwy yn mynd gam ymhellach heddiw wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, agor Parth Dysgu newydd Blaenau Gwent.
07/02/13
Yn ystod ymweliad diweddar â’r Rhyl, gwelodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ganlyniadau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru a sut mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r cyfleusterau addysg yn y dref.
16/01/13
Cyhoeddwyd heddiw gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, y bydd ysgolion uwchradd yng Nghymru sydd ym Mandiau 4 a 5 yn cael swm o £10,000 i’w helpu i wella safonau a pherfformiad.
12/12/12
Mae Owen Evans wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd yr Ysgrifennydd Parhaol, Derek Jones CB.
04/12/12
Heddiw cyhoeddodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Jane Hutt y bydd dau gynllun cyllid arloesol newydd yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol o hanner biliwn o bunnoedd mewn seilwaith.
Gweinidog Addysg yn agor adeilad newydd, gwerth £8.7 miliwn, Ysgol Arbennig Crownbridge yn swyddogol
22/11/12
Roedd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yng Nghroesyceiliog heddiw i agor adeilad newydd, gwerth £8.7 miliwn, Ysgol Arbennig Crownbridge yn swyddogol. Daeth £5.4 miliwn o’r cyllid oddi wrth Llywodraeth Cymru.
04/10/12
Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi croesawu'r £15 miliwn ychwanegol i gefnogi rhaglen 'Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif' yn 2013-14. Bydd yr arian yn galluogi cychwyn ar sawl prosiect yn gynnar.
22/02/11
Fe fyddwch chi wedi cael cadarnhad ym mis Rhagfyr fod y rhaglen amlinellol strategol gyflwynodd eich awdurdod wedi cyrraedd ein swyddfa.
22/02/11
Cwrddodd y Bwrdd ar 6ed Rhagfyr 2010 i adolygu cynnydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a thrafod y camau nesaf.
11/11/10
Heddiw, bydd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, yn amlinellu sut mae Llywodraeth y Cynulliad ac WLGA yn bwriadu newid eu ffordd o drefnu ac ariannu rhaglenni cyfalaf yr ysgolion.
11/11/10
Mae'r bwriad i roi addysg o'r radd flaenaf a chychwyn gwych i bob plentyn yn un ymestynnol ond allweddol i Gymru. Allwn ni ddim gwneud hynny, fodd bynnag, heb adeiladau lle bydd modd ysgogi disgyblion ac athrawon fel ei gilydd, defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf ac ymaddasu yn ôl angheni
...
04/11/10
Mae cydnabyddiaeth ers blynyddoedd lawer bod byd adeiladu'n dangos cyflwr yr economi ac yn gallu ei sbarduno, hefyd.
25/10/10
Mae Gwobrau Rhagoriaeth TGCh yn gynllun ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill sy'n ymwneud â'r ysgolion. Nod y cynllun yw cydnabod rhagoriaeth ysgolion ym maes TGCh a gwobrwyo corff sy'n helpu ysgolion i wella yn y maes hwnnw. Cafodd enwau'r enillwyr eu cyhoeddi ddydd
...
Dolenni perthnasol
Neilltuir adnoddau i'r ysgolion a cholegau priodol yn y lleoedd priodol – o addysg blynyddoedd cynnar hyd at addysg ôl-16. Darperir yr arian ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol â cholegau.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi sylw i’r angen am flaenoriaethau lleol a hyblygrwydd.