Cydweithio ym maes adeiladu ledled Cymru (Tachwedd 2010)
Fel arfer, mae gwariant mwyaf pob awdurdod yn ymwneud â chodi, adnewyddu a chynnal adeiladau. Mae llawer o bryder, fodd bynnag, nad oes digon wedi'i wario i gynnal gwasanaethau i'r cyhoedd yn ôl eu lefelau presennol na'u gwella ar gyfer y dyfodol.
Ar ben hynny, mae'n debygol y bydd toriadau cyllidebol yn effeithio'n fawr ar faint o arian sydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru ar gyfer adeiladu. Mae'n bosibl y bydd y cyllid a ddaw trwy Lywodraeth y Cynulliad yn gostwng o 3% ac y bydd y cyfalaf yn gostwng o 10%. Felly, mae'n amlwg bod angen gwneud y gorau o'r adnoddau prin a chyflawni 'mwy â llai'.
I achub y blaen ar y toriadau, mae WLGA wedi sefydlu Cylch y Prosiectau Adeiladu Cydweithredol. Ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y sefydlodd y cylch yn y lle cyntaf ac, felly, bydd yn canolbwyntio ar y rhaglen hon am y tro i hwyluso cyfleoedd i awdurdodau lleol gydweithio yn y pedwar rhanbarth. Bydd y cylch yn rhoi cymorth i'r rhanbarthau trwy:
- Nodi a hwyluso cyfleoedd i gydweithio ynglŷn ag eiddo, adeiladu a chaffael gan hyrwyddo cysondeb ac osgoi dyblygu;
- Hyrwyddo arloesi, cynaladwyedd, yr arferion gorau a chydweithio ar draws ffiniau arbenigol a rhanbarthol i hwyluso'r deilliannau gorau.
Mae aelodau'r cylch wedi'u penodi o blith amryw gyrff megis yr awdurdodau lleol, Rhagoriaeth Adeiladu Cymru, Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru, Partneriaeth Caffael y Gogledd, Consortiwm Prynu Cymru a Gwerth Cymru.
Ar ôl cwrdd nifer o weithiau, mae'r cylch wrthi'n paratoi rhaglen fydd yn amlinellu ei weithgareddau a'i flaenoriaethau. Mae rhagor o wybodaeth gan Chris Chapman ar christopher.chapman@wlga.gov.uk.
