Skip to content

Niferoedd cynyddol yn arwydd o lwyddiant cynnar i ysgol gynradd newydd ysgol gynradd Awel y Môr

Niferoedd cynyddol yn arwydd o lwyddiant cynnar i ysgol gynradd newydd ysgol gynradd Awel y Môr

Mae’r ysgol yn profi’n fwy poblogaidd nag erioed ymhlith plant yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yng Nghymru ers agor ysgol gynradd hynod fodern gwerth £7.9m, gyda chyllid rhannol o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mae dyfodiad Ysgol Awel y Môr wedi bod yn chwa o awyr iach i ddysg yn ardal Sandfields ym Mhort Talbot, wedi iddi gymryd lle dwy ysgol a’i rhagflaenai a oedd yn llawn problemau, gyda desgiau gweigion ac ystafelloedd dosbarth mewn cyflwr gwael.

Ers i’r dosbarthiadau agor eu drysau yno ym mis Medi 2013, mae disgyblion a arferai fynychu naill ai ysgol gynradd Glanymor neu ysgol gynradd Tir Morfa – ddwy filltir oddi wrth ei gilydd ar yr un stad o dai – wedi bod yn mwynhau manteision amgylchedd cynllun agored braf a adeiladwyd i bwrpas ar gyfer dysgu yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i gyd.

Mae hynny’n cynnwys iPad i’r plant i gyd a chyswllt Di-Wifr drwy'r adeilad cyfan, sy'n golygu bod pob rhan o'r ysgol yn ofod lle gall y disgyblion ddysgu.  Hefyd, mae gan yr adeilad newydd lawer o nodweddion amgylcheddol gyfeillgar, fel panelau solar ac offer dal dŵr glaw, ac maent i gyd yn cael eu defnyddio gan yr ysgol i helpu disgyblion i ddysgu am ddefnydd o ynni a rheoli adnoddau naturiol.

Hefyd, mae'r ysgol newydd yn cynnwys safle technoleg bwyd blaengar i helpu'r plant a'u teuluoedd i ymddiddori mewn coginio bwyd iach, a safle canolog a phenodol ar gyfer Dechrau’n Deg, y rhaglen gefnogi ar gyfer teuluoedd sydd â phlant iau na phedair oed.

Y tu allan, mae gan yr ysgol arwynebau chwarae pob tywydd, aml-ddefnydd wedi’u gosod ar sylfaen hen ysgol Glanymor, ar ôl ei dymchwel yn hydref 2013.

Mae’r gymuned leol yn gallu defnyddio’r cyfleusterau dysgu a hamdden sydd ar gael yn yr ysgol. Ymhlith manteision eraill, pwrpas hyn yw gwella cyswllt y rhieni â’r ysgol newydd.

Y canlyniad sylfaenol yn gynnar fel hyn yw cynnydd cyffredinol sylweddol yn nifer disgwyliedig y plant ar gofrestr Awel y  Môr, wrth i fwy o rieni lleol ddewis anfon eu plant i’r ysgol flaengar hon – un o chwe ysgol gynradd ar y stad. Hefyd, gwelwyd cynnydd nodedig yn y cyfraddau presenoldeb, gan fod y disgyblion yn cael eu cymell yn llawer gwell gyda chyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer dysgu.

Esboniodd Aled Evans, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, bod yr achos dros uno’r ddwy ysgol yn un ‘cryf’ iawn, wedi adolygiad yr awdurdod lleol yn 2010 o’r llefydd gwag ac o gyflwr yr adeiladau.

Dim ond 120 o ddisgyblion oedd wedi cofrestru yng Nglanymor mewn ysgol gyda lle i 300, a dim ond 140 o ddisgyblion oedd yn Nhir Morfa mewn cyfleusterau ar gyfer 250. Yn fwy na hynny, aseswyd Glanymor fel ysgol gyda chostau atgyweirio a chynnal a chadw o £2.7m ac roedd cyfanswm yr atgyweiriadau yr oedd angen eu gwneud yn Nhir Morfa yn £800,000 o leiaf.

Roedd y penaethiaid addysg yn wynebu her wrth ddewis lle i adeiladu’r ysgol newydd. Fel y dywedodd Mr Evans, roedd y staff a’r rhieni yn y ddwy ysgol yn derbyn bod uno yn angenrheidiol, ond roeddent yn teimlo teyrngarwch i ysgol eu plentyn ac yn dymuno i’w hysgol nhw fod yn lleoliad ar gyfer y safle ar y cyd.

Fodd bynnag, safle Glanymor oedd â’r fantais o diroedd helaeth, gyda chyfle i adeiladu’r ysgol newydd heb amharu ar yr ysgolion presennol yn ystod y cyfnod adeiladu. Roedd yn cynnig gwerth am arian gwell hefyd.

Ar ôl ymgynghoriadau a briffiau cymunedol, a barodd am flwyddyn a hanner bron, aeth yr awdurdod lleol ati i fwrw ymlaen â’r opsiwn i adeiladu ysgol newydd sbon ar safle Glanymor.

Dywedodd Mr Evans:

“Fe aethon ni ati i gynnal cyfarfodydd ymgynghori helaeth, gan estyn gwahoddiad i ysgolion eraill yr ardal hefyd. Fe fuon ni’n siarad gyda nhw i roi ein cynllun ar brawf, ond roedd yn achos nad oedd posib dadlau yn ei erbyn mewn gwirionedd. Roedd yn gyfle rhagorol i gael y gorau i’n plant ni.”

Penodwyd Gail McAlister yn bennaeth ym mis Ionawr 2013, gan roi dau dymor iddi i baratoi’r disgyblion a’r staff ar gyfer agor y drysau. Ochr yn ochr â’r llywodraethwyr, aeth ati i gynnwys plant y ddwy ysgol yn y gwaith o ddewis enw ar gyfer y sefydliad newydd a’r nodweddion arbennig niferus y tu mewn.

Ar ôl dewis yr enw newydd, sicrhaodd Mrs McAlister ei fod yn cael proffil uchel fel bod y disgyblion ar y ddau safle’n dechrau dod i’w adnabod.

Roedd y disgyblion yn ymweld ag ysgolion ei gilydd er mwyn gwneud ffrindiau newydd, ac fe dalodd y contractwyr adeiladu, Dawnus o Abertawe, am ymweliad preswyl am dridiau i’r plant â gwersyll yr Urdd yn Llangrannog, er mwyn iddynt ddod i adnabod ei gilydd.

Daeth pensaer yr adeilad newydd ar ymweliad yn fuan iawn, i ddangos y cynlluniau a’r eco-nodweddion i’r plant, ac i gael eu barn am y lliwiau y dylid eu defnyddio.

Rhoddwyd gwybodaeth gyson am y cynnydd i rieni drwy gylchlythyr yr ysgol neu, pan oedd unrhyw ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y ddwy ysgol, roedd Mrs McAlister wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.

Dywedodd:

“Mae’r plant yn eithriadol falch o’u hysgol newydd, sydd mor wahanol i’r hyn oedd ganddyn nhw o’r blaen. Mae wedi arwain at fwy o ymwneud â’i gilydd ac wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb ac ar nifer y disgyblion, sydd wedi cynyddu’n fawr. Y peth cyntaf mae’r rhieni’n ei ddweud pan maen nhw’n gweld yr ysgol newydd ydi, ‘waw’.”

Disgrifiodd fel mae’r ystafelloedd dosbarth wedi’u gosod yn gyfochrog â’i gilydd, gyda safle gweithio agored rhwng pob pâr o ystafelloedd, ac mae gofod awyr agored helaeth ar gael hefyd ar gyfer dysgu’r Cyfnod Sylfaen.

Nodwedd arall sydd wedi cael ei thrawsnewid gan yr ysgol newydd yw Uned Cyfeirio Disgyblion Tŷ Afan (Cynradd), a arferai fod ar safle Glanymor. Pan gaeodd Ysgol Gynradd Glanymor, fe gaeodd yr Uned hefyd, a throsglwyddwyd y disgyblion i gyfleuster pwrpasol ac arbenigol yn Awel y Môr – sef Canolfan Cynhwysiant Disgyblion. Mae hon yn darparu ar gyfer hyd at 14 o ieuenctid o ysgolion eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Mae Mrs McAlister yn mynd ati i gynnwys y disgyblion hyn yng ngweithgareddau dyddiol Awel y Môr, gan gynnwys gwasanaethau boreol, amseroedd chwarae, gwersi AG a hefyd gwersi dysgu cyffredinol, a phwrpas hyn i gyd yw helpu i’w hailintegreiddio mewn addysgu prif ffrwd.

O ran y staff, dywedodd Mr Evans:

“Mae’r rhan fwyaf wedi trosglwyddo i’r ysgol newydd. Er hynny, fe ddewisodd rhai a oedd yn dod i ddiwedd eu gyrfa ymddeol ac fe symudodd eraill i lefydd eraill.   Mae gennym ni enw da am weithio gyda’r undebau llafur ac rydyn ni’n llwyddiannus iawn am ddod o hyd i leoliadau ar gyfer staff mewn ysgolion eraill. Os nad oedd aelod o staff yn trosglwyddo i’r ysgol newydd, roedd yn cael swydd arall neu drefniant boddhaol arall.”

Yn y cyfamser, mae’r gofod sy’n rhydd i fyny yn Nhir Morfa wedi cael ei ddefnyddio’n rhannol i roi lle i’r galw cynyddol sydd am lefydd yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg gerllaw, ac yn rhannol fel canolfan addysg oedolion ar gyfer yr ardal.

Yn ogystal â lefelau presenoldeb gwell a mwy o gyfranogiad gan rieni, mae Mr Evans yn credu bod yr ysgol newydd yn cael effaith fanteisiol ehangach ar ardal ddifreintiedig lle mae gan oddeutu 60% o’r disgyblion hawl i brydau ysgol am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes:

“Mae hon yn enghraifft wych o wneud rhywbeth hynod gadarnhaol er lles cymuned ddifreintiedig.  Mae codi ysgol fel yr un yma yn eu hardal leol yn gallu codi ysbryd rhieni a meithrin dyheadau’r plant a’r bobl ifanc, gan wneud i bobl deimlo bod eu cymuned nhw’n bwysig hefyd. Y farn gyffredinol yw bod hwn wedi bod yn fuddsoddiad rhagorol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ac y bydd yn gwasanaethu’r disgyblion a’r gymuned am flynyddoedd eto i ddod.”