Skip to content

Dull newydd o weithio’n arwain at allu parhaol fforddiadwy i ysgol sy’n tyfu’n gyflym Ysgol Gymraeg Nant Talwg

Dull newydd o weithio’n arwain at allu parhaol fforddiadwy i ysgol sy’n tyfu’n gyflym Ysgol Gymraeg Nant Talwg

Mae dull gwreiddiol o ddylunio adeiladau wedi galluogi i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Ne Cymru oresgyn rhwystrau ei strwythurau dros dro a symud ymlaen i fod ar flaen y gad o ran amgylcheddau addysgu modern.

O fis Medi 2014 ymlaen, bydd disgyblion Ysgol Gymraeg Nant Talwg yn y Barri yn elwa o gynllun modern tu hwnt i’w hystafelloedd dosbarth, a’r offer dysgu technolegol diweddaraf, ac yn cael digon o le parhaol i ehangu i’w llawn botensial o ran nifer y disgyblion erbyn 2017.  

Mae’r trawsnewid wedi bod yn bosib drwy fuddsoddiad o £2.7 miliwm gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

Yn wreiddiol, roedd Ysgol Gymraeg Nant Talwg, a agorodd ei drysau ym mis Medi 2011 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, yn wynebu’r posibilrwydd o dwf fesul tipyn drwy ychwanegu ystafelloedd dosbarth symudol wrth i nifer y disgyblion gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd yn bosibilrwydd a ddisgrifiwyd gan y pennaeth, Menna Roberts, fel un ‘heriol’.

Fodd bynnag, cafodd hyn ei osgoi yn sgil penderfyniad yr awdurdod lleol i ddefnyddio templed cynllunio ysgolion safonol a thrwy hynny leihau ffioedd proffesiynol a chostau ategol eraill. Mae hyn yn darparu strwythur parhaol newydd ar yr un safle, gyda lle i’r dosbarth meithrin, saith ystafell ddosbarth a chyfleusterau cwbl fodern am ddim ond £310,000 yn fwy na chost prynu strwythurau parod ychwanegol, a fyddai wedi bod yn angenrheidiol.

Mae’r ysgol, sydd ar dir yr ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg, sef Ysgol Bro Morgannwg, wedi profi twf cynt na’r disgwyl o ran y galw am lefydd ac, erbyn mis Medi 2013, roedd ganddi fwy na 90 o ddisgyblion ar draws y pedwar grŵp blwyddyn o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn Dau. Gyda disgwyl 30 yn rhagor o blant ym mis Medi 2014, ac ychwanegu Blwyddyn Tri, roedd angen rhagor o ofod ar frys.

Esboniodd Jane Wade, Rheolwr Gweithrediadau’r cyngor ar gyfer Eiddo a Chyflawni:

“Roedden ni’n mynd i gael ateb dros dro arall ond fe wnes i ddigwydd darllen rhywbeth am sut roedd ysgolion yn dechrau defnyddio cynlluniau templed. Gwnaeth hyn i ni edrych ar ffordd wahanol o gyflawni ac roedd posib i ni gael ateb parhaol am yr un pris mwy neu lai â’r ateb dros dro.  Mae nid yn unig wedi arbed arian, ond hefyd wedi lleihau'r amser sydd ei angen ar gyfer dylunio, cynllunio a chyflwyno'r prosiect.  Rydw i’n credu mai hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru.”

Ar ôl cwblhau’r contract adeiladu 50 wythnos ym mis Gorffennaf 2014, bydd gan yr ysgol uned feithrin, saith ystafell ddosbarth, safle dysgu agored ar gyfer y Cyfnod Sylfaen,  neuadd ysgol sydd gryn dipyn yn fwy, ceginau newydd a chyfleusterau TGCh helaeth. Bydd hyn yn galluogi iddi ddal ati i dyfu hyd at ei huchafswm o 210 o ddisgyblion, pan fydd yr holl grwpiau blwyddyn yn eu lle erbyn 2017.Nant Talwg

Dywedodd y pennaeth, Menna Roberts, a benodwyd yn 2012:

“Fe fydd gennym ni gyfleuster mawr iawn a fydd yn dyblu ein gofod presennol ni, gyda neuadd briodol – rhywbeth nad oes gennym ni ar hyn o bryd, a chegin bwrpasol fel ein bod yn gallu coginio ar y safle yn lle cludo prydau i mewn, fel sy’n digwydd nawr. Hefyd bydd gennym ni lwybr cerdded i ddysgu sy’n hwylus i’w gyrraedd o bob ystafell ddosbarth.”

Esboniodd sut aeth y staff ati i gael y plant i gymryd rhan yn natblygiad yr ysgol newydd. “Fe wnaethon ni ofyn i’r plant ddatblygu mapiau meddwl o’r hyn fydden nhw’n hoffi ei weld yn yr ysgol newydd. Er enghraifft, fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw beth fydden nhw’n hoffi ei weld ar y llwybr dysgu. Fe ddywedodd rhai y bydden nhw’n hoffi gweld cyfrifiaduron, eraill llyfrgell, ac fe ddywedodd eraill y bydden nhw’n hoffi gweld cyfleusterau coginio, felly dyma benderfynu cadw’r safle hwnnw mor hyblyg â phosib.

“Y disgyblion ddewisodd liwiau’r ysgol newydd hefyd. Roedden ni eisiau iddyn nhw deimlo’n berchen ar eu hysgol newydd,”

ychwanegodd.

Bu’n rhaid i’r ysgol wynebu’r her o golli rhan o’i man chwarae tra oedd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo, ac roedd hynny’n golygu bod rhaid rhannu’r amser chwarae, i gyfyngu ar nifer y disgyblion a oedd y tu allan ar yr un pryd.

Drwy ymgynghori â rhieni, mae’r ysgol wedi llwyddo i dawelu unrhyw bryderon am effaith bosib hyn ar y plant.

Dywedodd Mrs Roberts:

“Fe wnaethon ni gynnwys y rhieni ym mhob cam o’r gwaith. Roedden nhw’n gallu gweld y darlun mwy ac yn deall ein bod ni i gyd yn mynd i elwa o’r broses yr oedd rhaid i ni fynd drwyddi er mwyn cyrraedd yno.”

Cynhaliwyd diwrnod agored yn haf 2013, cyn dechrau ar y gwaith, gyda chontractwyr ISG o Gaerdydd yn amlinellu’r prosiect i’r rhieni gan ddefnyddio fideo CGI ac ateb eu cwestiynau.

Cafodd y gwaith adeiladu ei hun ei droi’n brofiad dysgu i’r plant, gyda ‘ffenestri’ lefel isel wedi’u torri yn y byrddau o amgylch y safle adeiladu, fel eu bod yn gallu gweld beth oedd yn digwydd y tu mewn.  Hefyd, cyflwynwyd y plant i Ifor Safle Saff, sef cymeriad a oedd yn hybu negeseuon allweddol am ddiogelwch safle adeiladu.

Bu’r plant yn gweithio gyda’r artist cymunedol Christian Ryan hefyd, i greu ffenestri arbennig ar gyfer yr ysgol newydd. Anogwyd y plant i dynnu sylw at nodweddion lleol, fel bywyd gwyllt, y môr, parciau a byd natur.

Aeth Mrs Roberts ati i dalu teyrnged i gyfraniad ei 13 aelod o staff, sy’n cynnwys pump athro ac wyth cymhorthydd dysgu. Dywedodd:

“Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn o’r dechrau. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol o dan amodau anodd ac wedi gallu cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen mewn ardal ddysgu gyfyngedig iawn y tu allan.”

“Mae’r broses adeiladu wedi golygu ein bod ni wedi ad-drefnu nifer o weithgareddau a digwyddiadau. Er hynny, roedden ni wedi sefydlu partneriaeth gadarn ag ISG ac Adran Eiddo a Datblygu Cyngor y Fro cyn dechrau ar y gwaith, ac mae hyn wedi helpu gyda phob agwedd ar y prosiect. Mae’n ffantastig ein bod ni’n mynd i gael ysgol newydd sbon a phwrpasol y gallwn ni dyfu i mewn iddi,”

dywedodd.

Yn fwy na hynny, ni fydd yr adeilad symudol y mae’r ysgol yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn mynd yn wastraff. Bydd y strwythur sy’n gymharol newydd o hyd yn cael ei ddatgymalu a’i roi’n ôl at ei gilydd ym mloc y celfyddydau yn Ysgol Gyfun Y Barri gerllaw.