Skip to content

Uno gwledig yn darparu dewis arall modern ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy

Uno gwledig yn darparu dewis arall modern ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Dyfrdwy

Mae dyfodol addysg gynradd cyfrwng Cymraeg mewn ardal wledig yn Sir Ddinbych yn edrych yn fwy diogel, diolch i fuddsoddiad o £1.4 miliwn sy'n dod â dwy ysgol gynradd ynghyd mewn amgylchedd newydd a modern iawn.

Mae arian o Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi’i galluogi creu ysgol gynradd newydd sbon Ysgol Bro Dyfrdwy, drwy ehangu a gwneud gwaith uwchraddio helaeth i adeiladau un o'r ysgolion presennol.

Bydd ystafelloedd dosbarth mwy o faint, mwy llachar, gyda’r offer TG diweddaraf, ynghyd â chae chwarae bob tywydd ar gyfer llu o chwaraeon, yn rhoi profiad dysgu cyfoethocach i’r 112 o ddisgyblion fydd yn mynychu'r ysgol newydd, wrth iddynt ddechrau mwynhau manteision eu hamgylchedd newydd.Ysgol Bro Dyfrdwy

Dechreuodd y prosiect i ddod ag Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Llandrillo at ei gilydd yn ardal Edeyrnion yng Nghorwen yn 2010 pan gynhaliodd y cyngor sir adolygiad o addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Dyffryn Dyfrdwy. Nododd yr adolygiad yma bod yno nifer sylweddol o leoedd dros ben yn Ysgol Llandrillo, a oedd ag ond 39 o ddisgyblion llawn amser ar y gofrestr. Ar yr un pryd, roedd Maes Hyfryd, gyda 61 o ddisgyblion bryd hynny, yn dibynnu'n drwm ar adeiladau dros dro i ddarparu ar gyfer ei dysgwyr.

Gwelodd yr awdurdod lleol gyfle i ddarparu amgylchedd dysgu newydd, parhaol a gwell o lawer ar safle Maes Hyfryd ym mhentref Cynwyd. Yn ogystal â’r cyfleusterau diweddaraf, mae'r ysgol newydd wedi’i chynllunio i sicrhau mwy o ddysgu sy'n briodol i oedran, gydag o leiaf bedwar dosbarth ar wahân, tra yn flaenorol, mewn rhai achosion, roedd plant yn cael eu dysgu ar draws pedwar grŵp blwyddyn yn yr un dosbarth.

Esboniodd James Curran, Rheolwr Rhaglen y Cyngor ar gyfer Moderneiddio Addysg:

“Roeddem eisiau diogelu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac yn teimlo y byddai gwneud dim yn arwain at ddirywiad. Drwy gael y ddwy ysgol i ddod at ei gilydd gallem gyflwyno darpariaeth fwy cadarn.”

Yn dilyn yr adolygiad a’r cyfarfodydd ymgynghori dilynol gyda rhieni a'r gymuned ehangach, cyhoeddwyd rhybuddion statudol yn 2011 i gau'r ddwy ysgol a chreu un sefydliad newydd ar y cyd.

Er y bydd yr ysgolion yn parhau i fod ar safleoedd ar wahân tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2013/14, mewn gwirionedd daeth y ddwy ysgol yn un sefydliad ym mis Ionawr 2013 o dan brifathrawiaeth Eirian Owain, a fu’n yn bennaeth ym Maes Hyfryd am 25 mlynedd. Ar yr adeg honno roedd Llandrillo wedi bod o dan stiwardiaeth pennaeth dros dro ers peth amser.

Cafodd Mrs Owain ei rhyddhau’n llawn o'i chyfrifoldebau addysgu ym mis Ionawr 2013 er mwyn dechrau paratoi ar gyfer y newidiadau. Roedd hyn yn golygu rhannu ei hwythnos rhwng y ddau safle. Sefydlwyd cymdeithas rhieni ac athrawon ar y cyd hefyd fel bod yr holl rieni yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses.

Roedd y paratoadau yn cynnwys dyddiau cyfarfod ar y cyd ar gyfer staff a disgyblion o'r ddau safle, a chynhaliwyd un o'r rhain yn y Pafiliwn yn Llangollen lle cafodd y bobl ifanc gyfle i drafod a chyflwyno syniadau ar gyfer enw, logo a gwisg yr ysgol newydd. Dewiswyd pont fel y logo newydd i nodi bod dwy gymuned yn dod at ei gilydd. Pan gyflwynwyd y wisg newydd ar ddechrau blwyddyn ysgol 2012/ 13 rhoddwyd siwmper ysgol am ddim i bob dysgwr.

Dros y misoedd dilynol dilynwyd y dyddiau cyfarfod ar y cyd hyn gan nifer o ddigwyddiadau ar y cyd megis diwrnodau chwaraeon ac eisteddfodau er mwyn atgyfnerthu’r cysylltiadau agos.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu i ehangu a moderneiddio'r adeilad ar safle Maes Hyfryd ym mis Gorffennaf 2013 ac, er mwyn caniatáu lle i gontractwyr gyflawni eu gwaith, cafodd tua 30 o ddisgyblion eu hail-leoli dros dro i safle Llandrillo. Bu hyn o gymorth pellach i’r broses o gael y staff a’r disgyblion i ddod i adnabod ei gilydd yn well.

Eglurodd rheolwr y prosiect, Lowri Roberts:

“Roedd symud disgyblion i Landrillo yn tarfu llai, o gofio bod rhan o Maes Hyfryd wedi’i throi yn safle adeiladu. Gwnaed y gwaith yn raddol gan ganiatáu i'r ysgol gymryd perchnogaeth o'r ystafelloedd dosbarth newydd neu a adnewyddwyd wrth iddynt ddod ar gael. Y cyfnod o fis Medi i Nadolig oedd yr unig adeg pan oedd yr adeiladwyr yn gweithio yma yn ystod y tymor, gyda’r mân waith yn cael ei gwblhau yn y Flwyddyn Newydd.”

ClassroomYn ystod 'Wythnos Fathemateg' - yr ail wythnos ym mis Mawrth, pan oedd y cyfleusterau newydd fwy neu lai yn barod, cafodd disgyblion Llandrillo ymweld â safle Maes Hyfryd ar gyfer gweithgareddau arbennig ac i ymgyfarwyddo â’r lle.

Roedd cam cyntaf y gwaith adeiladu yn ymwneud â chodi estyniadau ffisegol i dair cangen yr adeilad a dilynwyd hynny gan newidiadau mewnol helaeth er mwyn creu amgylchedd newydd ar y safle. Yn ystod y tymor hwnnw, cwblhawyd gwaith hefyd ar osod cae chwarae pob tywydd amlddefnydd newydd ar yr hyn a fu cyn hynny yn ddau gwrt tenis hen oedd yn dechrau dirywio. Bydd y cyfleuster newydd yn addas ar gyfer pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a thenis.

Dywedodd Mrs Owain:

“Rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhieni ar hyd y daith. Maent wedi dod i'r ysgol i holi swyddogion o'r awdurdod lleol a minnau, ac rydym wedi bod yn berffaith agored gyda nhw i gyd ar hyd y ffordd.”

Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda chymuned Cynwyd trwy gydol yr adeg o ran sut y bydd pobl leol yn gallu rhannu defnydd o neuadd, ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau chwaraeon yr ysgol newydd, ar ôl iddi gale ei chwblhau. Yn ogystal, cyfrannodd cwmni adeiladu Read & Co, Wrecsam offer chwaraeon at ddefnydd y gymuned.

Yn y cyfamser mae trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal rhwng yr awdurdod lleol a thrigolion yn Llandrillo ynghylch y defnydd o adeilad yr ysgol yn y dyfodol, wedi i’r dysgwyr drosglwyddo i'r ysgol newydd ym Medi 2014.

Dywedodd Mrs Owain ei bod yn credu y byddai'r amgylchedd newydd yn hybu dysgu'r plant:

“Os ydych yn cerdded i mewn i'r adeilad mae'n edrych yn hollol wahanol. Mae'n ysgafn a modern ac mae'r ardal meithrin a derbyn yn newydd sbon. Mae pob un o'r dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen yn wynebu ardal agored. Mae buddsoddiad mawr iawn wedi bod mewn TGCh, gyda chyfrifiaduron, gliniaduron a byrddau cyffwrdd newydd. I fod yn onest mae'n ysgol newydd wych ac rydym yn teimlo'n freintiedig iawn bod yr holl arian yma wedi cael ei wario ar yr ardal wledig hon. Rydym yn falch iawn am y peth gan y bydd wir yn cryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.”

Er gwaethaf y pryderon cychwynnol yn Llandrillo am golli eu hysgol bentref, dywedodd y pennaeth ei bod yn teimlo fod pob rhiant bellach yn gwbl gefnogol i’r sefydliad newydd a’r dyfodol ar y cyd.

Ers cyhoeddi'r bwriad i greu’r ysgol newydd cafwyd cynnydd yn y galw am leoedd meithrin yno, â’r rhan fwyaf o’r galw yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith ar draws y dalgylch cyfan.

Dywedodd James Curran:

“Mae bob amser yn sefyllfa anodd pan fydd un ysgol yn cau ond mae llawer o bethau cadarnhaol wedi dod allan ohono. Rydym yn teimlo ein bod wedi creu llwyfan mwy sefydlog ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ar draws ardal Dyfrdwy i gyd.”