Prosiectau
Mae'r dudalen hon yn tynnu sylw at rai o'r amryw brosiectau sydd wedi'u cynnal neu sydd ar y gweill yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
Mae'n cynnwys prosiectau codi neu adnewyddu ysgolion uwchradd a chynradd.
"Mae cyfleusterau cynadledda fideo sy'n galluogi'r ysgol i feithrin cysylltiadau ag ysgolion eraill yn y DG a thramor a chynnal gwersi ar y cyd â nhw. At hynny, mae gan yr ysgol stiwdio deledu a recordio lle mae'r disgyblion yn gallu meithrin medrau cyflwyno. Gan fod ynddi'r dechnoleg honno, mae Ysgol Gynradd Nant Celyn yn gallu defnyddio'r dulliau dysgu diweddaraf." - Ysgol Gynradd Nant Celyn, Tor-faen
"Yn yr un modd, fydd sŵn o ryw goridor neu ystafell ddim yn cyrraedd rhannau eraill o'r ysgol, chwaith. O ganlyniad, mae'r disgyblion yn gallu canolbwyntio ar eu gwaith a does dim angen i'r athrawon godi eu lleisiau i gael eu clywed." - Ysgol Gynradd Rogiet, Sir Fynwy
"A chyfleusterau newydd ynddi bellach, mae'r ysgol yn gallu datblygu'r cysylltiadau presennol â'r gymuned trwy gynnig y cyfleusterau hynny i'w defnyddio tu allan i oriau'r ysgol." - Ysgol Gyfun y Bont-faen
