Ysgol Arbennig Portfield, Sir Benfro
Datblygwyd tir yr ysgol isaf dros nifer o flynyddoedd, ac maent wedi cynnwys yr amgylchedd allanol i gynllun yr ysgol uchaf a adeiladwyd yn ddiweddar.
Mae nodweddion cadarnhaol yr adeilad newydd yn cynnwys creu mannau allanol ger yr ystafelloedd dosbarth sy’n hygyrch i bawb, a tho rhannol i ddarparu lle pontio rhwng ardaloedd dysgu dan do ac awyr agored. Mae’r gwersi yn ymestyn i’r mannau awyr agored yn aml – mynd â byrddau a chadeiriau y tu allan ac mae’r cysgod rhannol yn cadw’r mannau hyn yn sych beth bynnag fo’r tywydd, felly gellir eu defnyddio gydol y flwyddyn.
Mae’r tir yn cynnwys amrywiaeth o fannau ymgynnull i grwpiau a dosbarthiadau cyfan, pwll wedi’i godi a chuddfan i adar yn ogystal â thwnnel helyg, cyfleusterau compostio a pholydwnnel. Mae gweithgareddau garddio’n cael eu cynnal gan athro sy’n ceisio sicrhau bod garddwriaeth yn cefnogi profiadau dysgu cynhwysol llawn. Mae’n credu y dylai plant, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, ailgysylltu â natur a deall bod yr hyn maen nhw’n ei fwyta yn dod o’r ddaear.