Ysgol Gyfun Penyrheol
I godi'r ysgol o'r newydd, dim ond hyn a hyn o arian oedd ar gael trwy'r yswiriant. Aeth y cyngor ati i weithio ar y cyd â'r bobl gysylltiedig, y tîm technegol a'r contractwr i bennu cynllun fyddai'n arwain at werth arian a gwell dysgu. Cymerodd y staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion ran yn y broses a ddefnyddiodd lawer o'u syniadau. Canlyniad hynny yw canolfan gynaladwy sy'n llawn golau ac awyr iach, yn addas i'r 21ain ganrif ac yn lle ardderchog i weithio a dysgu ynddo.
Ymhlith nodweddion yr ysgol mae ffenestr 10m o uchder o flaen y cyntedd,
atriwm gwydr 40m uwchben adain yr astudiaethau technoleg a llyfrgell fodern iawn.
Mae adran gerddoriaeth ar wahân, ffreutur aml ei ddibenion, cyfleuster dysgu arbenigol ac adran gelf lle mae golygfeydd trawiadol o'r ail law.
Mae lled y coridorau'n amrywio yn ôl faint o bobl fydd yn eu defnyddio ar yr oriau brig. Mae nodweddion diogelwch megis paneli rhag tân yn y waliau, sustem taenu dŵr a theledu cylch cyfyng ar dri llawr.
Tu allan, mae pafin ynghyd â lawntiau a meinciau pren. Mewn man dysgu allanol, mae meinciau maen crwm.
Mae materion amgylcheddol yn amlwg yn nhrefn a deunyddiau'r adeilad gan fod nifer o nodweddion 'cynaladwy' megis paneli gwres yr haul, celloedd ffotofoltaidd a mannau casglu glaw.
Mae'r adeilad yn gwneud y gorau o olau naturiol ac awyr iach. Sustem rheoli'r adeilad sy'n cadw trefn ar y tymheredd ac ati. Yn y waliau, mae deunydd insiwleiddio thermal sy'n rhagori ar safonau rheoliadau adeiladu. Mae brise soleil tu allan a chysgodlenni tu mewn i ddiogelu pawb rhag yr haul.
Mae'r sustemau gwres a thrydan fel ei gilydd wedi'u llunio i ddefnyddio llai o ynni a gollwng llai o nwyon.
Mae modd gwresogi amryw rannau'r adeilad ar wahân i'w gilydd yn ôl yr angen.
Mae llif y dŵr o'r tapiau'n un darbodus a bydd y sustem drydan yn diffodd y goleuadau os nad oes neb mewn ystafell. Mae modd i bob adran o'r ysgol ddidoli gwastraff i'w aigylchu.
Enillodd y prosiect statws BREEAM (lefel 'Da Iawn') a Secured by Design.
I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu i ymweld â'r ysgol, cysylltwch â Geraint Flowers: Geraint.Flowers@swansea.gov.uk
