Ysgol Gynradd Plascrug - Aberystwyth
Mae'r cyfleusterau newydd wedi’u derbyn yn ffafriol iawn gan staff, llywodraethwyr a disgyblion yr ysgol. Mae pob gwagle yn estyniad yr ysgol yn cael eu defnyddio’n helaeth ac felly’n dangos hyblygrwydd y dull dylunio a'r defnydd helaeth llwyddiannus o olau naturiol ac awyru lle bo’n ymarferol. Mae’r incwm amcangyfrifedig o osod celloedd ffotofoltäig trwy dariff cyflenwi trydan yn £513 y mis.
Parhaodd yr ysgol i gael ei defnyddio’n llawn trwy gydol y contract adeiladu, gan gynnwys cyfnod pan oedd adnewyddu mecanyddol a thrydanol helaeth yn cael ei gyflawni.
Ymgynghorwyd yn llawn â staff, disgyblion a llywodraethwyr yr ysgol trwy gydol y broses ddylunio ac yn ystod y cyfnod adeiladu. Cynhwyswyd ceisiadau am waith ychwanegol i’r cyfnod sylfaen a maes parcio newydd i staff o fewn y rhaglen.
Mae'r prosiect wedi bod yn gyfrifol am gael gwared â phob portacabin ac adeiladau dros dro o safle'r ysgol a oedd erbyn hyn yn hagr yr olwg ac yn anaddas ar gyfer addysgu. Mae'r cyfleusterau newydd wedi creu tirnod addysgol deniadol newydd yn amgylchedd lleol Aberystwyth ac mae'r mannau addysgu newydd wedi darparu disgyblion a staff yr ysgol ag amgylchedd dysgu priodol er mwyn gwella eu haddysg wrth iddynt symud ymlaen drwy gyfnod allweddol 2.
Gwelwyd bod cyfranogiad cynnar gan staff yr ysgol, y rhieni, y llywodraethwyr a’r disgyblion trwy'r AALl i sicrhau ymgynghori adeiladol wedi profi’n werth mawr ar y prosiect hwn. Bu ymgynghori parhaus drwy gydol cyfnod y contract nes bod y gwaith wedi’i gwblhau. Gwelwyd hefyd fod dadansoddi opsiynau’n systematig ar gyfer strategaethau effeithlonrwydd ynni wedi profi'n fuddiol iawn.
| Awdurdod Lleol | Cyngor Sir Ceredigion |
| Cyswllt o fewn yr Awdurdod Lleol | D Billingsley - Prif Bensaer |
| Enw’r Ysgol | Ysgol Gynradd Plascrug, Aberystwyth |
| Cyfeiriad gwefan yr ysgol | www.plascrugprimary.co.uk |
| Math o Ysgol | Cynradd |
| Math o Brosiect |
Adeiladu Estyniad Newydd ac Adnewyddu’r Ysgol Bresennol Prif natur y prosiect: darparu adeilad addysgu deulawr newydd a llety ategol ar gyfer disgyblion rhwng 7-11 oed, neuadd ysgol newydd, ystafell staff, llyfrgell ac ystafell addysgu technoleg arbenigol, hefyd gydag amrywiaeth o wagleoedd allanol gan gynnwys ardaloedd ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer chwarae a chwaraeon, maes parcio a thirlunio helaeth. Nodweddion enghreifftiol: prif neuadd amlbwrpas, gofod allanol ar gyfer addysgu a pherfformio yn yr awyr agored a gofod wedi’i leoli’n ganolog ar gyfer llyfrgell/adnoddau; gofodau addysgu wedi’u goleuo’n dda ac wedi’u hawyru’n naturiol; mannau cylchdroi deniadol ac wedi’u goleuo’n naturiol. Prosesau a gweithdrefnau arferion gorau/arloesol: defnydd helaeth o gelloedd ffotofoltäig fel adnodd cynhyrchu trydan ar gyfer yr ysgol; darpariaeth helaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni i adeiladau presennol yr ysgol er mwyn cyflawni gwelliant o’r raddfa ‘G’ yn y Dystysgrif Arddangos Ynni i’r raddfa ‘A’ yn y Dystysgrif Perfformiad Ynni. |
| Dyddiad Cwblhau |
Mawrth 2011 |
| Nifer y Disgyblion | 400 |
| Arwynebedd llawr mewnol gros (m²) | Ysgol wreiddiol: 1360 metrau sgwâr Estyniad: 852 metrau sgwâr Cyfanswm Newydd: 2212 metrau sgwâr |
| Cost (£s) | £2,000,000 |
