Ysgol Gynradd Rogiet, Sir Fynwy
Mae'r ysgol ger traffordd yr M4, cefnffordd yr M48 a rheilffordd ond mae'r penseiri wedi gofalu nad yw sŵn o'r tu allan yn gallu tynnu sylw'r disgyblion oddi wrth eu gwaith.
Yn yr un modd, fydd sŵn o ryw goridor neu ystafell ddim yn cyrraedd rhannau eraill o'r ysgol, chwaith. O ganlyniad, mae'r disgyblion yn gallu canolbwyntio ar eu gwaith a does dim angen i'r athrawon godi eu lleisiau i gael eu clywed.
Er bod y llonyddwch o les i bawb yn yr ysgol, mae'n helpu'r ysgol i fod yn fwy cynhwysol o ran disgyblion trwm eu clyw, hefyd. O gadw mewn cof fod yr ysgol yn perthyn i brif ffrwd addysg, bydd absenoldeb sŵn o les arbennig i'r llawer o blant sy'n fyddar dros dro. Mae amcangyfrif y bydd 80% o blant yn dioddef â hylif yn eu clustiau cyn troi'n 8 oed.
Gan fod llai o sŵn yn y cefndir, bydd disgyblion sy'n defnyddio cymhorthion clyw neu gyfarpar tebyg yn gallu clywed yn haws. Yn wir, mae 99% o ddisgyblion byddar Cymru yn mynychu ysgolion y brif ffrwd ar hyn o bryd.
Ar ben hynny, mae ymchwil wedi dangos bod disgyblion awtistaidd yn elwa pan fo'n haws clywed yn ystod gwersi.
Meddai'r brifathrawes, Kathryn Evans: “Roedd atsain yn yr hen adeilad a gallech chi glywed sŵn y draffordd tu allan drwy'r amser, ond mae hynny i gyd wedi diflannu nawr. Does dim llawer o sŵn yn yr adeilad newydd ac mae hynny wedi effeithio'n fawr ar y plant – maen nhw'n dawel iawn.
Gan fod llai o sŵn yn y cefndir, mae'n haws i'r plant ganolbwyntio ar eu gwersi ble bynnag maen nhw – yn yr ystafelloedd dosbarth, yr ystafelloedd llai i'r grwpiau neu'r llyfrgell.”
I godi adeilad lle na fyddai sŵn yn broblem, ymgynghorwyd ag arbenigwyr acwsteg o'r dechrau ac, ar ôl gorffen y prosiect, cynhaliwyd profion i ofalu bod yr adeilad yn cyd-fynd â'r safonau acwsteg sydd wedi'u hamlinellu yn Building Bulletin 93.
Mae safon yr acwsteg yn Ysgol Gynradd Rogiet wedi'i chyflawni trwy ystyried acwsteg yn ofalus drwy gydol y prosiect. Cynhaliwyd arolwg o sŵn ar y safle pan ddechreuodd y prosiect gan bwyso a mesur ble dylai'r adeilad gael ei godi yno i osgoi'r sŵn o'r ffyrdd a'r rheilffordd gerllaw.
Cydweithiodd arbenigwyr acwsteg yn agos â'r penseiri yn ystod y prosiect a chymerwyd nifer o gamau i hwyluso acwsteg megis ystyried llif yr aer yn ofalus a gosod sustem BMS i ateb gofynion BB101 fel nad oedd eisiau defnyddio ffenestri ehangach a fyddai wedi gadael rhagor o sŵn i mewn.
Defnyddiwyd drysau trymach ac arnyn nhw seliau acwstig ar bob ochr hefyd i ofalu na fyddai sŵn yn symud rhwng ystafelloedd.
I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu i ymweld â'r ysgol, cysylltwch â'r brifathrawes, Kathryn Evans (01291 420348).
