Ysgol Arbennig y Tŷ Gwyn, Caerdydd
Ymhlith y cyfleusterau mae ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd a mannau gweinyddu, cyfleusterau triniaeth ddŵr, ystafelloedd meddygol a thriniaethol, cyfleusterau chwarae meddal, cyfleusterau datblygu'r synhwyrau a chyfleusterau adloniant arbennig.
Dechreuodd y prosiect adeiladu, gwerth £16 miliwn, fis Ebrill 2009 ac mae gwaith codi'r ysgol wedi creu safle fel campws coleg yng Nghaerau ynghyd ag Ysgol Gynradd Trelái, Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Riverbank. Un o nodweddion y safle yw bod y cyfleusterau prif ffrwd ac arbenigol fel ei gilydd o fewn cyrraedd hawdd fel y bydd modd defnyddio adnoddau'n effeithlon a datblygu gwasanaethau cyfun er lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae'r ysgol a'r ganolfan seibiant fel ei gilydd wedi'u codi yn ôl safon 'Secure by Design' ac arni sêl bendith awdurdod yr heddlu a safon amgylcheddol BREEAM gan gydweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Carbon ynglŷn â chynaladwyedd ac arferion defnyddio ynni. Cafodd yr ysgol sylw yn rhan o brosiect Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru, hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu i ymweld â'r ysgol, anfonwch neges at Rachel Smith: RachSmith@cardiff.gov.uk.
